Mae'r Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS) yn gofrestr eithrio canolog ble gall unigolion gofrestru eu dymuniad i beidio derbyn galwadau ffôn gwerthiant a marchnata digymell. Mae'n ofyniad cyfreithiol i gwmnïau beidio gwneud galwadau o'r fath i rifau sydd wedi cofrestru ar y TPS.
Cyflwynwyd y ddeddfwriaeth wreiddiol ym Mai 1999. Mae wedi ei ddiweddaru ers hynny a'r ddeddfwriaeth berthnasol erbyn hyn yw'r Rheoliadau Preifatrwydd ac Electronig (Cyfarwyddeb EC) 2003.
Mae'r term unigolyn yn cynnwys defnyddwyr yn eu cyfeiriadau preswyl, unig fasnachwyr ac, ac eithrio yn yr Alban, partneriaethau.
Wedi i rif gael ei gofrestru bydd yn effeithiol o fewn 28 niwrnod.
Na, mae am ddim i gofrestru ar y TPS.
Ni dderbynnir arian gan y Llywodraeth i redeg y Gwasanaeth, mae'r diwydiant marchnata uniongyrchol yn talu amdano.




