Y Gwasanaeth Dewis Ffôn Corfforaethol (CTPS) yw'r gofrestr eithrio ganolog ble gall tanysgrifwyr corfforaethol (gweler y diffiniad isod) gofrestru eu dymuniad i beidio derbyn galwadau ffôn gwerthiant a marchnata digymell i naill ai holl rifau ffôn eu sefydliad, neu i rifau ffôn penodol. Mae'n ofyniad cyfreithiol i gwmnïau beidio gwneud galwadau o'r fath i rifau sydd wedi cofrestru ar y CTPS.
Mae'n cymryd 28 niwrnod i'r cofrestriad ddod yn gwbl weithredol.
Os ydych yn cofrestru unrhyw un o'ch rhifau ffôn, bydd angen i chi fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na fyddwch yn derbyn galwadau ffôn digymell gan sefydliadau eraill allai fod yn ddefnyddiol i chi a'ch cydweithwyr ac y byddai gennych ddiddordeb mewn derbyn.
Am wybodaeth ar y Rheoliadau sy'n dynodi'r gofyniad cyfreithiol newydd hwn, ewch i'r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb CE) (Diwygiad) 2004 trwy glicio yma.
Rydym yn awgrymu eich bod yn ymweld â gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer eu canllaw ar y Rheoliadau yma.
Cyn i chi gofrestru, dylech fod yn ymwybodol o'r ffaith y gallai cofrestru atal eich sefydliad rhag derbyn gwybodaeth yr hoffai eich cydweithwyr dderbyn - ac felly'n atal eich sefydliad rhag clywed am gyfleoedd perthnasol a gwerthfawr.
Os ydych yn cofrestru rhifau ffôn eich sefydliad ar y TPS Corfforaethol, yna rhaid eich awdurdodi i wneud hyn ar ran eich sefydliad. Os ydych yn cofrestru ystod o rifau ffôn, sicrhewch eich bod yn cael yr awdurdodiad perthnasol gan pob rhan o'ch cwmni (h.y. efallai yr hoffai un rhan o'ch sefydliad dderbyn galwadau ffôn gwerthiant a marchnata digymell, ond efallai yr hoffai adran arall gael eu heithrio o dderbyn galwadau o'r fath).
Mae tanysgrifiwr corfforaethol yn cynnwys cyrff corfforaethol megis cwmni cyfyngedig yn y Deyrnas Unedig, partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu unrhyw bartneriaeth yn yr Alban. Mae hefyd yn cynnwys ysgolion, adrannau ac asiantaethau llywodraeth, ysbytai, PLC's a chyrff cyhoeddus eraill.
Gallwch barhau i gofrestru eich rhif ffôn cartref ar y Gwasanaeth Dewis Ffôn. Mae'r Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS) yn gofrestr eithrio canolog ble gall unigolion gofrestru eu dymuniad i beidio derbyn galwadau ffôn gwerthiant a marchnata digymell. Mae'r term unigolyn dan gyfraith Lloegr yn cynnwys masnachwyr unigol ac, ac eithrio yn yr Alban, partneriaethau a defnyddwyr mewn cyfeiriadau preswyl.
Wedi i rif gael ei gofrestru bydd yn effeithiol o fewn 28 niwrnod.
Na, mae am ddim i gofrestru ar y CTPS.
Ni dderbynnir arian gan y Llywodraeth i redeg y CTPS, mae'r diwydiant marchnata uniongyrchol yn talu amdano trwy brynu ffeil data CTPS.
Oes, pob blwyddyn byddwn yn anfon e-bost atoch i'ch hysbysu sut i adnewyddu. Mae'r broses yn syml a dim ond munud fydd yn gymryd. Bydd methiant i adnewyddu yn golygu y bydd eich rhif neu rifau yn cael ei ddileu o'r ffeil data CTPS.*
* Mae hyn yn berthnasol i rifau sydd wedi cofrestru ar y TPS Corfforaethol yn unig. Nid oes angen adnewyddu os ydych wedi cofrestru ar TPS.




