Mae'r polisi preifatrwydd yn sefydlu manylion ar sut y gellir defnyddio'r wybodaeth bersonol yr ydym yn gasglu. Mae'r polisi yn ymwneud â data personol a gasglwyd gan y Gwasanaeth Dewis Ffôn trwy wefan y Gwasanaeth Dewis Ffôn i'r dibenion o leihau cysylltiadau marchnata uniongyrchol yn unig. Nid yw'n berthnasol i ddata personol a ddarparwyd i'r Gwasanaeth Dewis Ffôn trwy unrhyw ddull arall neu trwy unrhyw wefan arall. Dylech fod yn ymwybodol os byddwch yna'n rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i gwmni arall, na fydd defnydd polisi preifatrwydd y Gwasanaeth Dewis Ffôn bellach yn berthnasol.
Bydd gwybodaeth bersonol a ddarparwyd i'r Gwasanaeth Dewis Ffôn trwy wefan y Gwasanaeth Dewis Ffôn yn cael ei defnyddio i'r diben o ataliad a chadarnhau cofrestriad. Yn ogystal, gellir ei defnyddio ar gyfer ymchwil a dadansoddiad ystadegol.
Bydd y data a ddarparwyd yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon, dan drwydded gyfyngedig, i'r diben o ataliad neu i'w ymgorffori ar feddalwedd ataliad yn unig. Ni fydd eich data yn cael ei ddatgelu i drydydd partïon am unrhyw ddiben arall.
Mae "cwci" yn ddarn o wybodaeth, fel tag, y mae rhai gwefannau yn eu creu ar eich cyfrifiadur. Mae'n cwcis yn dynodi rhif ar hap i bob defnyddiwr o'r wefan hon. Ni ddefnyddir y cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon i gasglu unrhyw wybodaeth bersonol. Ni ddefnyddir ein cwcis i ddadansoddi eich ymweliadau i unrhyw wefannau eraill nac i olrhain unrhyw chwiliadau o'r we y byddwch yn cyflawni tra'ch bod ar y wefan. Fe ddefnyddir yr wybodaeth a gesglir trwy'r cwcis i olrhain symudiad ar sail cwmni ac ar gyfer dadansoddiad ystadegol.
Os, ar unrhyw adeg, y byddwch eisiau gwirio, diweddaru neu addasu'r wybodaeth bersonol yr ydych wedi darparu i'r Gwasanaeth Dewis Ffôn, gallwch wneud hynny trwy anfon e-bost at tps@dma.org.uk. Neu gallwch ysgrifennu at The Telephone Preference Service, 70 Margaret Street, Llundain W1W 8SS. Bydd gwirio, diweddaru neu addasu yn digwydd o fewn 40 niwrnod o dderbyn y cais.
Nid yw'n polisi preifatrwydd yn berthnasol i safleoedd trydydd parti y byddwch yn cael mynediad iddynt trwy'r wefan hon. Rydym yn argymell eich bod yn cyfarwyddo'ch hun â'r polisi preifatrwydd perthnasol cyn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol ar safle trydydd parti.
Rydym wedi rhoi nifer o fesurau diogelwch ar waith i sicrhau bod eich gwybodaeth wedi ei diogelu. Rydym yn defnyddio mur dân i atal trydydd partïon rhag cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol a mesurau corfforol eraill i atal defnyddwyr cofrestredig rhag cael mynediad at wybodaeth bersonol defnyddwyr eraill.
Trwy ddarparu eich data i'r Gwasanaeth Dewis Ffôn rydych yn cydsynio i casglu, storio, proses a defnyddio eich gwybodaeth bersonol gennym ni fel y disgrifiwyd yn y polisi preifatrwydd hwn.
Mae'r Gwasanaeth Dewis Ffôn yn wasanaeth sy'n cael ei redeg gan The Direct Marketing Association (UK) Limited.




