Mae'r Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS) yn wasanaeth am ddim. Dyma'r gofrestr eithrio swyddogol ble gallwch gofnodi eich dewis i beidio derbyn galwadau gwerthiant neu farchnata digymell. Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob sefydliad (yn cynnwys elusennau, sefydliadau gwirfoddol a phleidiau gwleidyddol) i beidio gwneud galwadau o'r fath i rifau sydd wedi eu cofrestru ar y TPS oni bai bod ganddynt eich caniatâd i wneud hynny.
Gall sefydliadau y mae gennych berthynas barhaus â nhw, er enghraifft, y rhai sy'n eich ystyried i fod yn gwsmer, (neu yn achos elusennau - yn rhoddwr), gasglu eich caniatâd yn ystod camau cynnar eich perthynas gyda nhw a byddant felly â'r hawl i'ch ffonio hyd yn oed os yw'ch rhif wedi cofrestru ar y TPS, oni bai i chi ddweud yn benodol wrthynt eich bod yn gwrthwynebu i dderbyn galwadau ganddynt i ddibenion marchnata.
Gall y TPS dderbyn cofrestriad rhifau ffôn symudol, fodd bynnag, mae'n bwysig nodi y bydd hyn yn atal derbyn galwadau llais marchnata ond nid negeseuon SMS (testun). Os ydych eisiau stopio derbyn negeseuon marchnata SMS, anfonwch gais 'eithrio' at y cwmni dan sylw.
Gan mai galwadau marchnata yn unig sydd wedi eu hatal gan y TPS, bydd sefydliadau yn dal i allu'ch ffonio i ddibenion ymchwil i'r farchnad dilys.







